grahame daviesCwestiynau Cyffredin:

Rydych chi'n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg - pa un sy'n dod gyntaf?
Cefais fy magu yn ddwyieithog. Cymry Cymraeg oedd fy rhieni, ac er mai'r Saesneg oedd prif iaith y cartref a'r gymuned, fe ddefnyddiwyd y Gymraeg hefyd, a'r Gymraeg oedd iaith fy addysg o wyth tan un ar bymtheg oed. Yn y Gymraeg y dysgais i farddoni gynta, a hi oedd unig iaith fy ngwaith creadigol tan 1999, pan ddechreuais dderbyn ceisiadau i gyfieithu fy ngwaith yn dilyn cyhoeddi fy llyfr cyntaf, Adennill Tir, yn 1997. Arweiniodd hynny yn gynyddol at gyfansoddi yn wreiddiol yn Saesneg. Bellach, fe ddefnyddiaf y ddwy iaith. O ran pa iaith ddaw gyntaf, mae hynny'n dibynnu weithiau ar ba gynulleidfa sydd gennyf mewn golwg, neu ba gomisiwn neu achlysur sydd dan sylw. Weithiau, y mae'n dibynnu ym mha iaith y daw'r llinellau cyntaf ata' i. Weithiau byddaf yn ysgrifennu cerdd yn y ddwy iaith yn yr un eisteddiad; maen nhw wedi eu clymu â'i gilydd.

Ble fedra' i brynu eich llyfrau?
Nid yw pob un o fy llyfrau mewn print bellach, ond gellir prynu'r rhai sydd ar gael yn syth oddi wrth y cyhoeddwyr, Seren, Gomer a Barddas, neu oddi ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru, Gwales, neu, wrth gwrs, oddi ar Amazon.

Mae gen i awydd ysgrifennu - wnewch chi helpu?
Dyma gyngor da iawn ar gyfer pob darpar-lenor.

Rydyn ni angen beirniad ar gyfer cystadleuaeth lenyddol - ydych chi ar gael?
Yr wyf wedi beirniadu llawer o gystadlaethau llenyddol, ym amrywio o rai mawr lle mae angen bron i flwyddyn i ddarllen y llyfrau i gyd, i rai bach gyda dim ond llond llaw o gerddi. Gadewch imi wybod beth sydd gennych mewn golwg ac fe gawn ni drafod beth sy'n bosibl.

Rydych chi wedi ysgrifennu llawer am bynciau Iddewig - ydych chi eich hun yn Iddewig?
Nac ydw, mae arna' i ofn. Nid oes gennyf unrhyw gefndir teuluol Iddewig. Dechreuais ymddiddori mewn pethau Iddewig yn y 90au cynnar pan oeddwn yn astudio ar gyfer fy noethuriaeth. Un o'r llenorion yr oeddwn yn eu hastudio oedd yr athronydd Ffrengig Simone Weil, a oedd yn Iddewes, ac wrth geisio deall ei safbwyntiau hi yn well fe ddechreuais i astudio Iddewiaeth. Arweiniodd hynny, yn 2002, at gyhoeddi llyfr, The Chosen People, am berthynas Cymru a'r Iddewon; arweiniodd hefyd at dri ymweliad ag Israel a Phalesteina, ac at lu o gysylltiadau, cyfeillion a diddordebau yn y byd Iddewig.

Sut dechreuodd eich diddordeb mewn Islam?
Tyfodd y diddordeb hwn allan o fy astudiaethau Iddewig. Wrth deithio i Israel a Phalesteina, deuthum i gysylltiad â Mwslimiaid, ac fe ddeuthum yn ymwybodol o gyfeiriadau at Islam yn llenyddiaeth Cymru. Arweiniodd yr ymchwil hwn at lyfr arall am berthynas Cymru ag Islam, sef The Dragon and the Crescent, a gyhoeddwyd yn 2011; ac unwaith eto, cefais lu o ffrindiau a chysylltiadau o ganlyniad i'r gwaith ymchwil.

Website created by
Mabmedia