Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

12/12/2008

Geiriau ar albwm newydd Catsgam

Mae Grahame Davies wedi darparu'r geiriau ar gyfer tair cān ar albwm newydd y band roc o Gaerdydd, Catsgam. Mae'r albwm, Adnodau gyda Blodau yn cynnwys y caneuon 'Cowbridge Road', 'Cymru Rydd Drofannol' a 'Freeway', yr ysgrifennwyd eu geiriau gan Grahame Davies.

Dyma bedwerydd albwm Catsgam, yn dilyn llwyddiant Moscow Fach, 'dwi eisiau bod a Cam. Mae'n ymddangos ar label Fflach. Catsgam yw: Dyfrig Ellis, drymiau; Edward Jones, bas; Rhys Powys, gitarau; Rhys Harries, gitarau, mandolin, lleisiau; Catrin Brooks, prif lais; Geraint Cynan; allweddellau; Tom Harries, lleisiau cefndir.

Recordiwyd y CD yn Stiwdio Kissan/Acapela a chafodd ei cynhyrchu gan Chris Lewis a Hywel Wigley.

Ceir samplau o'r caneuon yma ar iTunes, lle gellir prynu caneuon unigol neu'r albwm cyfan.

Clawr Adnodau gyda Blodau



Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia