![]() |
|
Newyddion News: Grahame Davies:(cy) Grahame Davies:(en) Adolygiadau: Reviews: Llyfryddiaeth: Bibliography: Llyfrau: Books: Cerddi: Poems: Lluniau: Pictures: Cysylltu: Contact: Cysylltiadau: Links: |
TAITH I'R UNOL DALEITHIAUSeico-ddaearyddiaeth Gymreig America (29/11/2009)Yn hwyr ym mis Hydref, fe ymwelodd Grahame Davies â'r Unol Daleithiau gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ar gyfer taith ddarlithio a chreadigol i Bennsylfania, Vermont ac Efrog Newydd. Bu'n westai ym mhrifysgol King's College, Wilkes Barre, Pennsylfania, gan berfformio darlleniad a chynnal seminarau gyda myfyrwyr. Rhoddodd ddarlleniadau hefyd yn Jim Thorpe ac yn y Scranton Cultural Centre, a drefnwyd gan y Mulberry Poets and Writers Association a'r Gymdeithas Dewi Sant leol. Ymwelodd hefyd ag ardal Poultney yn nhalaith Vermont, lle perfformiodd ddarlleniad yn Green Mountain College gyda Gary Lindorff. Yn y ddau le, bu'n gweithio gydag artistiaid Americanaidd ar gyweithiau yn delio gyda seicoddaearyddiaeth America Gymreig. Gwnaeth ddarlleniad hefyd mewn noson gelfyddydol yn Asch's Barn, Vermont, gyda'r awdur Frank Asch a Gary Lindorff. Ar Hydref 30, fe berfformiodd gyda'r baswr o Gymro Americanaidd Michael Douglas Jones mewn noson Geltaidd i ddathlu Calan Gaeaf yn llysgenhadaeth Iwerddon yn Efrog Newydd.
|
Website created by
Mabmedia |