Newyddion
News:

Grahame Davies:(cy)
Grahame Davies:(en)

Adolygiadau:
Reviews:

Llyfryddiaeth:
Bibliography:

Llyfrau:
Books:

Cerddi:
Poems:

Lluniau:
Pictures:

Cysylltu:
Contact:

Cysylltiadau:
Links:

PERFFORMIO 'YSBRYDOLIAETH' MEWN CYNGERDD DATHLU

Geiriau ar gyfer cyfansoddiad arbennig (26/11/2009)
Ar Dachwedd 14, fe gafodd darn o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Karl Jenkins , gyda geiriau gan Grahame Davies, ei berfformio am y tro cyntaf mewn cyngerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i ddathlu penblwydd y cyfansoddwr yn 65, penblwydd y Ganolfan yn bump oed, a phenblwydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ddeg. Cyfansoddwyd y darn, 'Ysbrydoliaeth', yn arbennig ar gyfer yr achlysur, ac fe'i perfformiwyd gan gorau cyfunol Côrdydd, Côr Caerdydd, Aelwyd y Waun Ddyfal a Cantata, gan gerddorfa Sinfonia Cymru, a chan y delynores Catrin Finch. Cafodd y noson ei darlledu ar S4C ar Dachwedd 21.

Perfformiad cyntaf 'Ysbrydoliaeth' yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Tachwedd 14, 2009. Llun: S4C

Grahame Davies a Karl Jenkins ym mherfformiad cyntaf 'Ysbrydoliaeth' yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Tachwedd 14, 2009. Llun: S4C

Website created by
Mabmedia