Llyfrau/Adolygu: |
Cân i gofio arwr 16-oed Brwydr Jutland. Ar Fawrth 13eg, yn Horseguards yn Whitehall yn Llundain, fe berfformiodd Côr Ieuenctid y Gymanwlad, a band Gwarchodlu'r Coldstream, y gân 'Jack', a gyfansoddwyd gan gyfarwyddwr y côr, Paul Carroll, i eiriau gan Grahame Davies. Y mae'r gân yn coffau Jack Cornwell, morwr 16 oed a enillodd fedal Croes Fictoria am ei ddewrder ym Mrwydr Jutland yn 1916. Bu farw o'r clwyfau a ddioddefodd yn y frwydr. Roedd y perfformiad yn Llundain yn rhan o ddathliadau Diwrnod y Gymanwlad.
Clawr Albwm Jack - A Local Hero
|
Website created by
Mabmedia |