Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 12/07/2007 Taith yn yr Unol Daleithiau Ym mis Hydref 2007, treuliodd Grahame Davies dair wythnos yn yr Unol Daleithiau ar daith lenyddol. Ar Hydref 13, ymwelodd eto â Delta, Pennsylvania i wneud darlleniad yng ngwyl treftadaeth Gymreig yr ardal. Wedyn ar Hydref 16, darlithiodd ar bwnc gwrthsemitiaeth ym Mhrifysgol Yale yn New Haven, Connecticut. Ceir stori ar yr ymweliad yma, a fideo o'r ddarlith a'r sesiwn holi-ac-ateb yma. Ar brynhawn Hydref 28, gwnaeth ddarlleniad yn y Chi Dance Centre yn Westport, Connecticut, ac ar Hydref 30, darllenodd yn lansiad Gogledd America y nofel Everything Must Change yng Nghanolfan Ryngwladol Cymru yn yr Adeilad Chrysler, Efrog Newydd. Talwyd y costau awyr ar gyfer y daith gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Y darlleniad yn Efrog Newydd
Mewn cartref ffrind ar Fifth Avenue
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |