Llyfrau/Adolygu: |
1/12/2018 Cyflwyniad trydydd Simffoni Paul Mealor Ar Dachwedd 30fed, yn Neuadd Hoddinott, Caerdydd, fe berfformiodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gyfansoddiad newydd Paul Mealor, sef ei Drydydd Simffoni, 'Illumination'. Darlledwyd y darn ar BBC Radio Three. Cyflwynwyd y darn i Grahame a Sally Davies, a oedd yn bresennol ar gyfer y perfformiad. Grahame yw libretydd Paul Mealor, ac mae'r ddau wedi gweithio ar lawer o gyfansoddiadau. Ysbrydolwyd y darn gan farddoniaeth Dante. Cafwyd adolygiad yn y Guardian, a ddywedodd: "In his single-movement 27-minute structure, tuned wine glasses, chosen for their aural purity, combine with celeste, bowed percussion and the upper octaves of the piano and strings to create a glistening soundscape, static and impassive." A cheir mwy o wybodaeth am y simffoni, yma.
Paul Mealor yn cyflwyno'r perfformiad
Rhaglen y perfformiad |
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |