Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

 

7/11/2020

Prosiect cerdd Covid 'Arrival at Elsewhere'

Mae Grahame Davies wedi cyfrannu i gerdd hir, faint-llyfr, 'Arrival at Elsewhere', a olygwyd gan Carl Griffin fel ymateb i'r pandemig Covid.

Yn y gerdd, y mae cant o feirdd rhyngwladol yn ymateb i brofiad y pandemig mewn un gerdd hir a gyfansoddwyd gan Carl Griffin allan o ddarnau o'u cerddi.

Mae'r awduron, sy'n cynnwys enillwyr y Wobr T.S. Eliot Philip Gross a George Szirtes, yn cynnig eu hagweddu nhw ar yr argyfwng.   Disgrifia Griffin eu hymateb fel a ganlyn: "Not a definitive voice, nor an authoritative one. But a contrasting, contradicting, confused voice, set both in the UK and everywhere else, represented by one narrator who, just like the rest of us, is made up of a hundred different people. A narrator cohesive only in his/her/their contemplation of Elsewhere." 

Y mae'r llyfr, a gyhoeddir gan wasg Against the Grain, yn costio £9.99 a bydd y prosiect nid-am-elw yn cyfrannu'r holl elw at elusen NHS Charities Together.   

Clawr Arrival at Elsewhere

 

Home


News


Books/Reviews


Poems


Contact


Website created by
Mabmedia