Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 01/12/2005 Lansio trydedd gyfrol farddoniaeth Gymraeg: Achos Ar Hydref 26ain, 2005, cafodd trydedd gyfrol o farddoniaeth Gymraeg Grahame Davies ei lansio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, dan nawdd yr Academi, a chyda Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn cyflwyno'r noson. Enw'r gyfrol newydd yw Achos, ac fe'i cyhoeddir gan Barddas, fel ei ddwy gyfrol gyntaf, Adennill Tir a Cadwyni Rhyddid. Fel y ddwy gyfrol flaenorol hefyd, ceir nifer o gerddi yn Achos sydd yn bwrw golwg ar y Gymru gyfoes, ond, yn ogystal, fe geir nifer sy'n awgrymu cyfeiriadau newydd ar gyfer y bardd. Ceir erthygl am y llyfr yn y cylchgrawn Golwg yma ac adolygiad ar BBC Cymru'r Byd yma. Ceir adroddiad ar y lansiad ar wefan Peter Finch yma.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |