Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

12/04/2008

Cyfres o ddarlleniadau yn y Wladfa, Ariannin

Ym Mawrth ac Ebrill, fe wnaeth Grahame Davies gyfres o ddarlleniadau ac ymweliadau ym Mhatagonia yn yr Ariannin. Ar Fawrth 30, darllenodd yn y Gaiman yn nyffryn Chubut, cymuned a sefydlwyd gan arloeswyr o Gymru yn y 19eg Ganrif.

Ar Fawrth 31, fe ymwelodd ag Ysgol yr Hendre ysgol gynradd gyfrwng-Cymraeg newydd yn Nhrelew, prif dref yr ardal. Ceir mwy o fanylion am yr ysgol yma.

Ar Ebrill 3, bu'n trafod ei waith gyda dosbarth Cymraeg Colegio Camwy, yr ysgol uwchradd yn Gaiman.

Ar Ebrill 5, ar ochr orllewinol y dalaith, fe berfformiodd ddarlleniad yn nhy te Nain Maggie ym mhentref Trevelin yn yr Andes, cymuned a sefydlwyd gan arloeswyr Cymreig yn anturio o'r cymunedau gwreiddiol yn ardal y Gaiman.

Wedyn ar Ebrill 6, darllenodd yn Ysgol Gymraeg yr Andes, y ganolfan Gymreig yn Esquel, prif dref yr ardal. Ceir darlun ac adroddiad am y darlleniad yma. Hwn oedd ail ymweliad Grahame Davies â'r Wladfa. Aeth yno yn 2001 i gynorthwyo gyda chynllun y Cyngor Prydeinig i gysylltu grwpiau o ddysgwyr yno gydag ysgolion yng Nghymru dros y we.

Y darlleniad yn Esquel

Llety yn Gaiman: Ffarm Fach.

Llety yn Esquel: La Chacra. Cysylltiad: Rini Griffiths.

Arbenigwyr teithio yn Nhrevelin: Andes Celtig. Cysylltiad: gwybodaeth@andesceltig.com

 



Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia