Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

 

3/11/2019

Cerddoriaeth Calan Gaeaf

Y mae gosodiad gan y gyfansoddwraig Celia Harper o gerdd Grahame Davies 'Song for Samhain' wedi cael ei berfformiad cyntaf yng nghyngerdd  Music and Silence yn eglwys St Vincent de Paul yn Osterley, Llundain ar Dachwedd 3ydd.

Chiswick Baroque berfformiodd y darn, sy'n gyfieithiad o'r gerdd Gymraeg 'Marwnad Calan Gaeaf' ac sydd yn cyfeirio at hen wyl y Celtiaid pryd y mae'r meirw yn gallu ymweld a'r byw.

Gellir clywed recordiad yma:

Yma:

Song for Samhain

 The wall between the worlds grows thin

when darkness falls on Samhain night.

Open the door and let the dead come in.

 

Fine as the filigree which spiders spin

to hold the leaves of autumn in their flight,

the wall between the worlds grows thin.

 

Those who are safe past sanctity and sin,

those who have gone the dark road to the light.

Open the door and let the dead come in.

 

Wind at the keyhole; cold upon the skin;

shapes in the shadow, sheltered from the sight.

The wall between the worlds grows thin.

 

Love from our lost ones, kindness from our kin,

prayers that we pray, and blessings we recite,

open the door and let the dead come in.

 

Now let the season of the soul begin;

welcome the wanderers who return tonight.

The wall between the worlds grows thin.

Open the door and let the dead come in.

 

Marwnad Calan Gaea'   

Tenau yw’r mur sy’n rhannu bedd a bod

ar Galan Gaea’ pan fo’r nos yn ddu.

Agor y drws, a gad i’r meirw ddod.

 

Fel llinyn arian gwe pry cop ddi-nod

a ddaliai ddail yr hydref megis pry,

tenau yw’r mur sy’n rhannu bedd a bod.

 

Y rhai a deithiodd heibio gwarth a chlod,

a dilyn ffordd y gwyll i’r golau fry:

agor y drws, a gad i’r meirw ddod.

 

Daw’r gwynt i'r ffenestr fel y treigla’r rhod,

ac atgof lleisiau ceraint yn ei gri.

Tenau yw’r mur sy’n rhannu bedd a bod.

 

Rhannu tân aelwyd eilwaith yw eu nod,            

cariad colledig ein cydnabod ni,

Agor y drws, a gad i’r meirw ddod.

 

Ddoe a heddiw heno sy’n cyd-fod;

croeso i’r crwydraid a ddychwelai’n llu.

Tenau yw’r mur sy’n rhannu bedd a bod

Agor y drws, a gad i’r meirw ddod.

 

Home


News


Books/Reviews


Poems


Contact


Website created by
Mabmedia