Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 30/04/2004 Dal Yma Nawr Os cewch chi gyfle i weld y ffilm Dal:Yma/Nawr gan Marc Evans (cyfarwyddwr) ac Ynyr Williams (cynhyrchydd) mae'n werth ei wneud. Ynddi, fe geir rhai o sêr amlycaf Cymru - megis Siân Phillips, Ioan Gruffudd, Matthew Rhys a John Cale - yn darllen ac yn perfformio cerddi Cymraeg. Mae'n ffordd wych o gyflwyno cyfoeth y traddodiad barddol nid yn unig i bobl y tu allan i Gymru ond i'r Cymry eu hunain. Cyfoes, mentrus, ffres; mae'n brofiad i'w gofio. Ceir rhai manylion yma. Mae gen i ran fach ynddi, sef darn o fy narlleniad yn y Stomp yn Nhyddewi. 'Chydig eiliadau, ond mae'n golygu fy mod ar y credits efo rhai o sêr mawr Cymru, felly 'dwi ddim yn cwyno!
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |