Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 19/10/2006 Darlleniad yn Delta, Pennsylvania Ar Hydref 5ed, perfformiodd Grahame Davies ddarlleniad yn Delta, Pennsylvania, UDA, yn y capel Cymraeg lleol,Capel Cymraeg Rehoboth. Cafodd Delta, a'r gymuned gyfagos, Cardiff, Maryland, eu sefydlu fel cymunedau cloddio llechi, gan ddenu niferoedd o ymfudwyr o Gymru, yn enwedig o'r gogledd-orllewin. Yn y fynwent yn Delta fe geir llawer o feddi gydag arysgrifiadau Cymraeg, gan gynnwys rhai englynion da. Mae gan lawer o'r bobl leol dras Cymreig, ac mae'r capel yn gwneud gwaith gwych fel canolbwynt gweithgareddau treftadaeth Gymreig yr ardal, gan gynnwys cynnal dosbarthiadau Cymraeg.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |