Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 01/07/2009 Cyfansoddiad gyda Karl Jenkins ar gyfer Coleg y Drindod, Caerfyrddin Ar Fehefin 28, cafodd gwaith newydd gan y cyfansoddwr byd-enwog Karl Jenkins ei berfformio i ddathlu'r ffaith bod Coleg y Drindod, Caerfyrddin, wedi ennill statws Prifysgol. Grahame Davies ddarparodd y geiriau ar gyfer y darn corawl a osodwyd i gerddoriaeth gan yr unig gyfansoddwr byw yn y Classic FM Hall of Fame. Cafodd ‘O Beata Trinitas’ ei berfformio am y tro cyntaf fel uchafbwynt Gwyl y Drindod ar ddydd Sul, Mehefin 28. Lladin, Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd y gerdd, sydd yn cynnwys addasiadau o ddeunydd o Lyfr Du Caerfyrddin, ac o weddïau coleg Lladin, yn ogystal â cherddi newydd. Perfformwyd y gwaith gan Gôr y Gyngerdd sydd yn cynnwys 150 o aelodau o Gôr CF1, Côr Godre’r Garth a Chôr y Drindod. Cafwyd hefyd berfformiad o Carmina Burana gan Carl Orff, a fydd yn cynnwys y soprano Fflur Wyn, y tenor Alun Wyn Jenkins a’r baswr Owen Webb. Ceir mwy o wybodaeth a lluniau o'r noson yma.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |