Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 27/07/2014 Beirniad ar Wobr Farddoniaeth Ryngwladol Dylan Thomas. Grahame Davies a Menna Elfyn oedd y beirniaid ar Wobr Ryngwladol Dylan Thomas a ddyfarnwyd dan nawdd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddathlu canmlwyddiant y bardd. 'Harmony' oedd y testun gosod, ac fe enillwyd y wobr o £2,000 gan Martin Willitts Jr, o Efrog Newydd am ei gyfansoddiad "Daffodils". Crynwr a garddwr organig yw'r bardd, sydd wedi ymddeol o'i waith fel llyfrgellydd yn Syracuse. Cyhoeddwyd ei waith mewn nifer o fannau, gan gynnwys gwasg Cinnamon yng Nghymru. Nid oedd Grahame Davies yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni wobrwyo oherwydd amgylchiadau teuluol, a thraddodwyd y feirniadaeth ar ran y ddau feirniad gan Menna Elfyn. Ceir erthygl am y digwyddiad yma.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |