Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 23/11/2007 'Gair o Gelf' i godi arian at yBrifwyl Ar Dachwedd 22, cymerodd Grahame Davies ran mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, a ddaeth â beirdd ac artistiaid at ei gilydd mewn fenter gelfyddydol i godi arian at Brifwyl Caerdydd 2008. 'Gair o Gelf' oedd Ymateb Pwyllgor Apêl lleol i’r her o godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch, 2008. Dyma'r hyn a ddywed y trefnwyr: "Gwahoddwyd 22 o feirdd ac artistiaid a chanddynt gysylltiad agos â Chaerdydd i gydweithio fesul pâr a chynnig eu hargraffiadau o’r brifddinas. Canlyniad hyn oll yw casgliad cyffrous ac unigryw, casgliad y gall Caerdydd, a Chymru gyfan, ymfalchïo ynddo." Gweithiodd Grahame gyda'r artist Helen Stiff, a gynhyrchodd ddarlun fel ymateb i'r gerdd 'Llwyd', yn cynnwys y geiriau 'Llwyd yw'r pethau sy'n goroesi i gyd.' Gwerthir cardiau cyfarch o'r gweithiau celf, a llyfr gyda'r lluniau a'r cerddi i gyd, er mwyn codi arian.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |