Llyfrau/Adolygu: |
09/08/2017 Gwobr yn y Brifwyl. Ar Awst 9fed, yn y Babell Lên, fe gyflwynwyd y wobr gyntaf i Grahame Davies ar gyfer un o gystadlaethau llenyddol yr wyl. Gan gystadlu dan y ffugenw 'Gwydion', fe enillodd y categori ar gyfer 'Cerdd yn addas i'w chanu'. Fe ystyrir y gerdd fel testun ar gyfer Tlws y Cerddor yn Eisteddfod 2018. Dyma'r trydydd tro i Grahame Davies ennill gwobr yn y Genedlaethol: enillodd wobr y Vers Libre yn 1994 a gwobr y Soned yn 2016. Cyflwynwyd y dystystgrif a'r arian gan Meirion Jones mewn seremoni yn y Y Babell Lên ar y maes yn Bodedern, Sir Fôn. Gofynwyd am gerdd ar destun yn ymwneud â’r gofod, sêr, haul a/neu’r planedau. Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol a noddodd y wobr. Y seremoni wobrwyo
Tu allan y Babell Lên
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |