Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

07/02/2004

Ymweliad ag Israel a Phalesteina

Ar Ionawr 4 aeth Grahame Davies ar wythnos o daith i Israel a Phalesteina. Taith ymchwil oedd hon a gododd allan o'i lyfr, The Chosen People, a gyhoeddwyd yn 2002 ac a ddeliodd gyda'r berthynas rhwng yr Iddewon a'r Cymry dros y canrifoedd. Cefod ei wahodd gan Weinyddiaeth Dramor Israel, ac fe gafodd y cyfle i gyfarfod gwleidyddion ac arweinwyr o bob math, gan gynnwys cynrychiolwyr swyddogol y llywodraeth, cynrychiolwyr o'r dde a'r chwith yn y byd gwleidyddol, cynrychiolwyr y lleiafrif Arabaidd yn Israel, ymgyrchwyr heddwch a chynrychiolwyr y Palesteiniaid, gan gynnwys Sheik Tal El Sider o Hamas. Oherwydd y trafferthion yn y rhanbarth, roedd llawer iawn o'r ymweliad yn ddigon sobreiddiol. Un o'r lleoliadau mwyaf cofiadwy oedd mynwent sydd yn cynnwys beddi'r nifer fawr o filwyr o Gymru a laddwyd yn ymgyrch y Cynghreiriaid i oresgyn Palesteina yn 1917 ac sydd wedi claddu yn Jerwsalem ar Fynydd Scopus . Digwyddiad cofiadwy arall oedd ymweliad - oedd heb ei drefnu ymlaen llaw, â Bethlehem ar noson Nadolig eglwysi Uniongred y Dwyrain. Trefnwyd hyn diolch i'r Canon Andrew White, sef cynrychiolydd arbennig Archesgob Caergaint yn y Dwyrain Canol a'r dyn a drefnodd y Datganiad Alecsandria. Ysgrifennodd ddwy erthygl yn seiliedig ar y profiadau hyn ar gyfer Cymru'r Byd. Maen nhw ar gael yma; Cafwyd y cyfle hefyd i ymweld â'r cynllun ysbrydoledig Save a Child's Heart mewn ysbyty ger Tel Aviv, lle mae meddygon Israelaidd yn perfformio llawdriniaeth y galon yn rhad ac am ddim ar blant Palesteinaidd y mae eu teuluoedd yn methu fforddio't costau meddygol. Yno, cafodd y pleser annisgwyl o weld plac i Selmi Awada, y bachgen Palesteinaidd o Gaza y rhoddodd flaendal ac enillion y llyfr The Chosen People i'w gynorthwyo drwy gynllun yr ysbyty yn 2002. Mae'n debyg y bu'r llawdriniaeth yn arloesol, a dyna pam y gosodwyd y plac.

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia