Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 30/07/2009 Cerddi mewn cylchgrawn llenyddol Almaeneg Mae cerddi gan Grahame Davies wedi cael eu cyhoeddi yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn diwylliannol Almaeneg Kalliope (Zeitschrift fur Literatur und Kunst), Heft I / 2009. Mae'r cerddi, a gyhoeddwyd yn y Gymraeg a'r Saesneg, a chyda nodiadau Almaeneg, yn cynnwys un yn y ffurf draddodiadol Roegaidd a elwir 'Propempticon', sef cerdd i ddanfon anwylyn, ac a ddefnyddir gan y cylchgrawn i agor pob rhifyn. Enwir cylchgrawn Kalliope, ar ôl un o dduwiesau ysbrydoliaeth yr hen Roeg. Y golygyddion yw'r Dr Claudia Weise ac Ahmad Milad Karimi. Mae cerddi Grahame Davies yn ymddangos gyda darlunia gan yr artist ifanc o Fwlgaria, Svetoslav Valeriev Stoyadinov.
.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |