Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 07/02/2004 Latfia: 'Y Ford Gron Ewropeaidd ar Farddoniaeth' Ym mis Medi 2001, bu Grahame Davies yn cynrychioli Cymru yn y 3ydd Ford Gron ar Farddoniaeth Ewropeaidd, yn Riga, Latfia. Fel y mae'r enw'n awgrymu, cynulliad o feirdd o Ewrop gyfan yw hwn, yn cynrychioli nid yn unig y cenhedloedd-gwladwriaethau, ond pob math o grwp ieithyddol ac ethnig, megis y Sami a phobl Tartar y Crimea. Fe gynhyrchodd y gynhadledd ddatganiad y gallech ei ddarllen yma Gwnaeth Grahame Davies gysylltiadau a arweiniodd at gasgliad o lenyddiaeth Cymru mewn cyfieithiad Bwlgaraidd, sydd i'w weld yma. Cefnogwyd y daith gan yCyngor Prydeinig a Llenyddiaeth Cymru Dramor. |
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |