Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

20/05/2018

Darlleniad 'Amgueddfa'r Lleuad', Abaty Tyndyrn

Ar nos Sul, Mai'r 20fed, fe gymerodd Grahame Davies ran mewn darlleniad barddoniaeth fel rhan o osodwaith Amgueddfa'r Lleuad yn adfeilion Abaty Tyndyrn yn sir Fynwy.  Rhan o Wyl Dyffryn Gwy oedd y digwyddiad.

Lleuad yn Abaty Tyndyrn

Mae Amgueddfa’r Lleuad yn safle celfyddyd loerol rhyfeddol gan yr artist rhyngwladol Luke Jerram. Wrth i’r nos gau, daeth cyfuniad o ddelweddau lloerol a goleuni’r lleuad, saith metr o led, sydd ynghrog yn uchel yn adfeilion yr Abaty, yn fyw â goleuni, a hynny i sain amgylchynol un o weithiau’r cyfansoddwr Dan Jones sydd wedi ennill gwobrau BAFTA ac Ivor Novello.

Trwy ddefnyddio delweddau gan NASA, mae pob centimedr o’r cerflunwaith yn cynrychioli 5 km o wyneb y lleuad. Cafodd Amgueddfa’r Lleuad ei chyflwyno mewn partneriaeth â Cadw, yn yr eiconig Abaty Tyndyrn yn rhan o Ŵyl Afon Dyffryn Gwy o Fai’r 14eg hyd yr 20fed 2018.

Mae’r lleuad wedi denu ymwelwyr i’r Abaty o hyd a lled y wlad yn y gorffennol hefyd. Wedi i Reilffordd Dyffryn Gwy agor yn 1876, daeth Abaty Tyndyrn yn lle ffasiynol iawn i deithio iddo, yn enwedig i weld y lleuad fedi, yn codi drwy ffenestr rhosyn yr Abaty. Roedd hyn werth ei weld a denodd filiynau o ymwelwyr yno yn yr 1880au.

 Gyda chynulleidfa o dros gant o bobl, gyda phob tocyn wedi ei werthu, fe ddarllenodd Grahame Davies gerddi am y lleuad yn Gymraeg a Saesneg ynghyd â Vanessa Dodd a Helen Stott.

 



Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia