Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 08/08/2005 Llyfr Mawr Caerdydd Ym mis Medi 2005 fe gyhoeddwyd The Big Book of Cardiff sydd wedi ei olygu gan Peter Finch a Grahame Davies. Dyma gasgliad newydd o ysgrifennu am Gaerdydd ar ei phenblwydd yn gant oed fel dinas, ac yn hanner cant oed fel prif-ddinas; ceir cyfraniadau difyr a dadlennol gan Niall Griffiths, Dannie Abse, John Williams, James Hawes, Trezza Azzopardi, Sean Burke, Duncan Bush, Gillian Clarke, Anna Davis, Nia Williams, Lloyd Robson, Owen Martell, Gareth Miles, Elinor Wyn Reynolds, Emyr Humphreys a llawer mwy. Mae gwaith y llenorion Cymraeg yn ymddangos mewn cyfieithiadau Saesneg. Ceir mwy o fanylion ar wefan Peter Finch yma. Digwyddodd y lansiad yn digwydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, ar Fedi 22. |
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |