Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 17/05/2006 Darlleniadau ym Madrid Ar Fawrth 14, bu Grahame Davies yn Oriel Sargadelos ym Madrid i lansio dwy gyfrol o gyfieithiadau o farddoniaeth gyfoes Gymraeg i'r ieithoedd Galiseg ac Astwreg, a siaredir yng ngogledd a gogledd-orllewin Sbaen. Mae'r blodeugerddi yma, sydd yn ddwyieithog Cymraeg-Galiseg a Chymraeg-Astwreg, wedi eu trefnu gan Xavier Frias-Conde, ac mae'r cyfieithiadau wedi eu hariannu gan Llenyddiaeth Cymru Dramor . Mae gan y llyfrau gyflwyniad o 8,000 o eiriau gan Grahame Davies, ac maen nhw wedi eu cyhoeddi gan VTP Editorial. Maen nhw'n cynnwys cerddi gan Emyr Lewis, Ifor ap Glyn, Elin ap Hywel, Gerwyn Wiliams, Grahame Davies, Huw Meirion Edwards, Elin Lwyd Morgan, Nici Beech, Mererid Puw Davies ac Elinor Wyn Reynolds. Ceir manylion am y cyfieithiadau yma. Ceir adolygiadau yma ac yma a cheir cyfieithiadau Galiseg eraill o waith Grahame Davies's yma. |
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |