Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

18/07/2008

Gwaith yn rhan o ddatblygiad canol tref

Mae barddoniaeth Grahame Davies wedi cael ei chynnwys ar rai gweithiau celf cyhoeddus a gafodd eu creu fel rhan o waith adfywio yng nghanol tref Merthyr Tudful. Y mae rhai o'i gerddi wedi cael eu gosod mewn llythrennau dur mawr ar feinciau gwenithfaen sy'n rhan o'r cynllun adfywio yn ardal Sgwar y Farchnad, Stryd Fawr a Swan Street. Bu Grahame Davies yn byw ym Merthyr o 1986 hyd 1997, pan symudodd i Gaerdydd. Roedd ei lyfr cyntaf, Adennill Tir a ymddangosodd yn 1997, wedi ei seilio'n bennaf ym Merthyr, a dyfyniadau o'r llyfr hwnnw a ddefnyddiwyd ar y meinciau.

Mainc gyda barddoniaeth Grahame Davies


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia