Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

03/01/2003

Cerdd i gofnodi gosod carreg sylfaen Canolfan y Mileniwm

Wnaeth Canolfan y Mileniwm gomisiynu Grahame Davies i deithio gyda charreg sylfaen canolfan y Mileniwm ar daith hynod fis Ionawr eleni. Cafodd y garreg ei chymryd o chwarel lechi yng Ngwynedd i'w chartref newydd ym Mae Caerdydd drwy ddulliau trafnidiaeth hen-ffasiwn: ceffyl a throl, trên stêm, ac wedyn cwch hwylio o Borthmadog i Gaerdydd, lle wnaeth Bryn Terfel osod y garreg. Roedd rhaid i Grahame Davies ysgrifennu dyddiadur ar gyfer papurau newydd ac hefyd i wneud gwaith creadigol megis barddoniaeth neu ryddiaith. Oherwydd tywydd garw, nid oedd modd i'r cwch hwylio ymhellach na cheg harbwr Porthmadog, ond roedd y trefnwyr wedi rhagweld y broblem hon ac wedi trefnu hofrennydd i gludo'r garreg i Gaerdydd. Dyma rai o'r erthyglau ar gyfer: BBC Cymru'r Byd ac ar gyfer: BBC Wales News Online. Mae'r rhai Saesneg wedi eu golygu cryn dipyn oherwydd gofynion gofod ar y safle hwnnw. Dyma Grahame Davies gyda Jonathan Adams, pensaer Canolfan Mileniwm Cymru, adeg gosod carreg sylfaen yr adeilad.

 

: Grahame Davies a Jonathan Adams

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia