Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 12/04/2014 Cerdd a darlun yn Neuadd y Glowyr. Ar Fedi 11eg, 2014, cynhalwyd seremoni yn y 'Memo' (Y Neuadd Goffa) yn Nhrecelyn yng Nghymoedd gwent i ddadorchuddio darlun a cherdd er cof am y rhai fu farw mewn trychineb pwll glo yn y 19eg Ganrif. Fe laddwyd 268 o ddynion a bechgyn mewn tanchwayng nglofa'r Prince of Wales Colliery ym mhentre cyfagos Abercarn, ar Fedi 11eg 1878. Y mae'r artist lleol Roy Guy wedi creu darlun mawr mewn arddull mosaic er mwyn coffau'r drychineb. Y mae wedi ei osod uwch y prif risiau yn y Neuadd Goffa, sydd wedi cael ei hadnewyddu yn ddiweddar. Gofynwyd i Grahame Davies ddarparu rhai geiriau i fynd gyda'r llun, ac fe gyfansoddodd y darn canlynol, a ddadorchuddiwyd ynghyd â'r darlun yn y seremoni:. We do not ask you to remember us: Nid oedd Grahame Davies yn medru bod yn bresennol yn y seremoni oherwydd ymrwymiadau gwaith yn Llundain ond fe'i cynrychiolwyd gan ei ferch, Haf, sydd hefyd yn fardd. Darllenodd hi'r gerdd yn y seremoni a chymerodd ran yn y dadorchuddio gyda Roy Guy a James Dean Bradfield o fand y Manic Street Preachers. cafodd y digwyddiad sylw ar y cyfryngau, gan gynnwys y South Wales Argus., a'r BBC. Ceir fideo o'r digwyddiad yma.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |