Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

27/06/2009

Cofeb i seren ffilm, cyfansoddwr a chanwr.

Ar Fehefin 27, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, bu Grahame Davies yn mynychu seremoni i ddadorchuddio cerflun o Ivor Novello, y mae wedi darparu'r cwpled Cymraeg ar ei gyfer.

Gwaith y cerflunydd o Benrhyn Gwyr, Peter Nicholas, yw'r gofeb, a gostiodd £80,000, ac sydd wedi ei gosod y tu allan i'r Ganolfan. Bu tua 250 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a fu'n benllanw menter i goffau Novello, (David Ivor Davies) un o feibion enwocaf Caerdydd, a fu'n seren ffilm, yn ganwr ac yn gyfansoddwr.

Dyma'r cwpled Cymraeg:

'Ar aelwyd dinas glo cynheuwyd cān,
gynhesodd genedl gyfan gyda'i dān.

Y mae'n cyfeirio at un o ganeuon enwocaf Novello, sef 'Keep the Home Fires Burning', o 1915, cān a fu'n llwyddiant ysgubol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac sydd yn dal yn cael ei pherfformio heddiw gan artistiaid megis Cerys Matthews, a recordiodd y fersiwn hwn. Y mae'r cwpled hefyd yn cyfeiro at y ffaith mai Caerdydd oedd prif ganolfan diwydiant glo y byd pan gafodd Novello ei eni yno yn 1893.


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia