Llyfrau/Adolygu: |
17/01/2020 Gwyddonwyr yn perfformio 'Cân y Cefnfor'
Daeth côr o wyddonwyr rhyngwladol ynghyd i berfformio darn cerddorol
newydd, 'Song of the Ocean', a gyfansoddwyd yn arbennig gan Paul Mealor gyda geiriau gan Grahame Davies
fel rhan o brosiect rhyngwladol mawr
i ddathlu cynhadledd ar wyddoniaeth y môr.
Digwyddodd y perfformiad cyntaf fel rhan o seremoni
raddio Prifysgol Aberdeen ar Ionawr 14eg, ym mhresenoldeb
Duges Rothesay (teitl swyddogol Duges Cernyw yn yr Alban)
a'r Dywysoges Frenhinol .
Cafodd y darn ei gomisiynu fel rhan o gynhadledd ryngwladol yn y Brifysgol ac er mwyn dathlu gwaith y gwyddonwyr yn amddiffyn amgylchedd y môr. Gellir clywed recordiad o'r ymarfer yma.
Paul Mealor, Yr Athro Syr Iain Torrance (Pro-Ganghellor Prifysgol Aberdeen) a Grahame Davies yn y parti graddio.
|
Website created by
Mabmedia |