Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

18/05/2003

Darlith a darlleniad yn Lublin.

Yn Hydref 2002, cefais y pleser o deithio at ddinas hanesyddol Lublin yng Ngwlad Pwyl ar gyfer cynhadledd ar ddiwylliant Prydeinig yn y Brifysgol Gatholig yno. Coeliwch neu beidio mae 'na adran Geltaidd yno, ac mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu. Gallech ddarllen y stori yn llawn yn Saesneg yma. Rwy'n ddiolchgar i'r Cyngor Prydeinig am eu cefnogaeth i'r ymweliad hwn, ac yn arbennig i'r darlithydd Cymraeg yn y Brifysgol, Aled Llion, am fod mor garedig â chymryd gofal o'r holl drefniadau. Un o bleserau'r daith oedd cwrdd â'r hanesydd enwog Syr Norman Davies, oedd yn rhan o'r un panel. Ac un o'r digwyddiadau mwy ysgafn oedd pan drodd griw o fyfyrwyr i fyny ar gyfer fy narlith i gan feddwl mai Syr Norman oeddwn i. Rhaid oedd imi ddweud mai cyfenw yn unig oedd gennym yn gyffredin ac mai ar begynnau gwahanol y byd academaidd yr oedd y ddau Davies yma! Da hefyd oedd cael cwmni'r Athro M Wynn Thomas o Abertawe, y bardd David Greenslade a'r academydd o'r Almaen, Dr Sabine Heinz. Pe bawn i ond yn gallu siarad Almaeneg mor dda ag mae hi yn gallu siarad Cymraeg!


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia