Llyfrau/Adolygu: |
Yng Ngwyl y Gelli ar Fair 29, cymerodd Grahame Davies ran mewn darlleniad gydag unarddeg o feirdd yn dathlu canmlwyddiant R.S.Thomas. Hwn hefyd oedd achlysur cyhoeddi Poems for R.S. A Centenary Celebration, gan Hay Festival Press, cyfrol sydd yn cynnwys cerdd yr un gan y beirdd yn ymateb i gerdd o'u dewis gan R.S. Thomas. Y beirdd yw: Simon Armitage; Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru; Damian Walford Davies; Grahame Davies; Menna Elfyn; Mererid Hopwood; Anna Lewis; Emyr Lewis; Glyn Maxwell; Eurig Salisbury ac Owen Sheers. Ystyrir R.S.Thomas (1913-2000) fel un o feirdd crefyddol gorau'r Ugeinfed Ganrif yn yr iaith Saesneg ac un o feirdd Cymreig amlycaf ei oes. Ef oedd testun traethawd doethuriaeth Grahame Davies yn y 90au ac fe wnaeth y ddau gwrdd ar sawl achlysur. |
Website created by
Mabmedia |