Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 24/03/2013 Cerdd ar albwm cyfansoddwr o Ganada Y mae cerdd gan Grahame Davies wedi cael ei gosod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr a'r perfformiwr Kevin Hutchings ar gyfer ei albwm newydd Shadows in the Light. Ymddangosodd y gerdd 'When you have to leave' yn y gyfrol Lightning Beneath the Sea yn 2012 dan y teitl 'Prayer for the Dying.' Y mae Kevin Hutchings, sydd eisoes wedi gosod nifer o gerddi Grahame Davies i gerddoriaeth, wedi cyfansoddi cān gan ddefnyddio'r geiriau ar y cyhoeddiad newydd, sef ei bedwerydd albwm. Mae'r albwm ar gael ar iTunes, yma.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |