Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 21/10/2009 Canmlwyddiant Simone Weil Ar Ddydd Sadwrn Awst 29, cymerodd Grahame Davies ran gydag enillydd y Wobr Whitbread, y bardd Michael Symmons Roberts, mewn digwyddiad ar y cyd yng ngwyl Greenbelt yn Cheltenham er mwyn dathlu canmlwyddiant yr athronydd a'r ymgyrchwraig Ffrengig Simone Weil. Simone Weil, a aned i deulu Iddewig yn Ffrainc yn 1909, oedd un o feddylwyr gwleidyddol a chrefyddol mwyaf gwreiddiol a mwyaf pryfoclyd yr ugeinfed ganrif. Yn ystod ei bywyd byr - bu farw yn 1943 - fe geisiodd gysoni ymroddiad diflino at gyfiawnder cymdeithasol gyda chyfriniaeth Gristnogol gynyddol. Yn y sesiwn hon bu Roberts a Davies yn archwilio hanes ffigwr sydd o hyd yn herio materoliaeth a gormes o bob math. Ceir mwy o fanylion am y sesiwn yma.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |