Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 26/11/2009 Perfformio 'Ysbrydoliaeth' mewn cyngerdd dathlu Ar Dachwedd 14, fe gafodd darn o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Karl Jenkins , gyda geiriau gan Grahame Davies, ei berfformio am y tro cyntaf mewn cyngerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i ddathlu penblwydd y cyfansoddwr yn 65, penblwydd y Ganolfan yn bump oed, a phenblwydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ddeg. Cyfansoddwyd y darn, 'Ysbrydoliaeth', yn arbennig ar gyfer yr achlysur, ac fe'i perfformiwyd gan gorau cyfunol Côrdydd, Côr Caerdydd, Aelwyd y Waun Ddyfal a Cantata, gan gerddorfa Sinfonia Cymru, a chan y delynores Catrin Finch. Cafodd y noson ei darlledu ar S4C ar Dachwedd 21.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |