Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

01/10/2013

Perfformiad o waith comisiwn gan Paul Mealor.

Ar Fedi 22ain, 2013, gwelodd Cadeirlan Llanelwy berfformiad cyntaf gwaith cerddorol newydd gan Paul Mealor gyda geiriau gan Grahame Davies.

Comisiynwyd y darn ar y cyd gan Wyl Gerdd Gogledd Cymru a Holywell Music er mwyn dathlu penblwydd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn 65 oed ac fe'i cyfansoddwyd gan Yr Athro Paul Mealor, a gafodd ei eni yn Llanelwy.

Fe'i cyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer côr a dau delynor Ar noson y perfformiad cyntaf, y telynoresau oedd telynores swyddogol gyntaf Tywysog Cymru, sef y seren ryngwladol Catrin Finch, a'r Delynores bresennol, Hannah Stone o Abertawe. Canodd Hannah delyn aur frenhinol y Tywysog. Cyfeiliodd y ddwy i'r côr o Brifysgol Aberdeen University lle y mae'r Athro Mealor yn gweithio.

Ceir erthygl yn y wasg am y noson yma.

Dengys y llun isod Grahame Davies gyda chyfarwyddwrig yr wyl, Ann Atkinson, a Paul Mealor

Grahame Davies, Ann Atkinson a Paul Mealor

Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia