Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 10/02/2017 Dadorchuddio portread gan Roy Guy Ar ddydd Gwener Chwefror 10fed, cynhalwyd derbyniad yng Nghanolfan Soar ym Merthyr Tudful i nodi dadorchuddio darlun gan yr arlunydd Roy Guy a ysbrydolwyd gan waith Grahame Davies, a fu’n byw am gyfnod sylweddol ym Merthyr. Y mae Roy Guy, o Drecelyn, wedi portreadu nifer o ffigyrau amlwg yn hanes a diwylliant Cymru dros y blynyddoedd, ac y mae wedi coffau llawer o ddigwyddiadau hanesyddol hefyd, megis boddi pentref Capel Celyn a thrychineb glofa’r Prince of Wales yn Abercarn ym 1878. Tra’n creu’r darlun hwnnw i goffau trychineb Abercarn, fe ddaeth Roy Guy i gysylltiad â Grahame Davies, a ddarparodd gerdd i gyd-fynd â’r darlun – cerdd a ddefnyddiwyd yn nes ymlaen gan yr actor Hollywood, Michael Sheen, fel diweddglo i’w raglen deledu yn rhoi hanes mudiad y Siartwyr, A Valleys Rebellion, a ddarlledwyd ym mis Chwefror 2015.
Bellach mae Roy wedi cynhyrchu llun yn darlunio gwaith Grahame Davies, a ddechreuodd ei yrfa lenyddol ym Merthyr Tudful, lle bu’n byw o 1986 tan 1997. Yn 1997, Canolfan Soar oedd lleoliad lansiad llyfr cyntaf Grahame Davies, y gyfrol farddoniaeth, Adennill Tir, a enillodd wobr a enwyd ar ôl awdur arall gyda chysylltiadau cryf â’r dref, sef Gwobr Goffa Harri Webb. Ugain mlynedd wedi’r lansiad honno, mae darlun trawiadol Roy Guy wedi cael cartref parhaol yn yr union ystafell lle lansiwyd y gyfrol honno. Yn y derbyniad yng Nghanolfan Soar cafwyd esboniad byr gan Roy Guy o’r weledigaeth a’r technegau y tu ôl i’w waith celf, a darlleniad yn Gymraeg a Saesneg gan Grahame Davies, yn canolbwyntio ar gerddi a ddarlunir yn y llun. Y mae dau o luniau Roy Guy eisoes i’w gweld ym Merthyr. Mae ei ddarlun o’r hanesydd Gwyn Alff Williams i’w gweld yn Llyfrgell Dowlais, a’i ddarlun o’r Philip Madoc yn y Llyfrgell Ganolog. Y gwaith gyda Roy Guy yw’r diweddaraf o nifer o brosiectau celfyddydol ym Merthyr sydd yn rhoi sylw i waith Grahame Davies. Y mae ei farddoniaeth yn ymddangos ar y meinciau gwenithfaen pinc yng ngahnol y dref ac yn ymddangos hefyd ar nifer o gerfluniau gan yr artist Nigel Talbot ar hyd Llwybr Taf, gan gynnwys yn Aberfan ac yng Nghefn Coed y Cymer. Yn ogystal, y mae gwaith a gynhyrchwyd mewn gweithdai ysgrifennu creadigol gyda phobl leol o dan ei arweiniad yn ymddangos mewn cerfluniau ar y Tramroad, a bydd eraill yn cael eu cynnwys mewn gwethiau celf yn natblygiad newydd Sgwâr y Castell. Yn ogystal, ym mis Hydref y llynedd, ynghyd â’r bardd Tony Curtis, fe gomisiynwyd Grahame Davies i ysgrifennu cyfres o gerddi i goffau Trychineb Aberfan, i gyd-fynd ag arddangosfa o ffotograffau gan Chuck Rappaport, a ddangoswyd yn y Red House ym Merthyr. Dyma esboniad o ddelweddaeth llun Roy Guy Y mae ffigwr canolog y bardd yn rhannu’r cynfas yn ddau, gyda’r diwylliant Cymraeg yn cael ei arddangos yn bennaf ar yr ochr dde (o safbwynt y gwyliwr) a’r Saesneg ar y chwith. Gan deithio yn null y cloc o ben y ffigwr, fe welir: cefndir o fryniau yn dangos tirwedd ardal enedigol y bardd ym mhentref Coedpoeth yn ardal lofaol gogledd ddwyrain Cymru; nesaf, wedi ei chau mewn cylch, gwelir draig yn gwarched pentwr o lyfrau sy’n dynodi gwaith Cymraeg y bardd, a’r angen i amddiffyn yr iaith Gymraeg; nesaf, ceir twr eglwys yn dynodi ei ffydd fel Eglwyswr. Ar y brig ar y dde ceir cenhinen Pedr Cymru, tra bod y ffigyrau gwrywaidd ar y dde ac ar y gwaelod yn dangos olyniaeth gwahanol genedlaethau; maen nhw wedi eu cyplysu gyda delwedd embryonaidd yn awgrymu genedigaeth y gerdd, a golygfa o gerrig beddi yn awgrymu dau begwn bywyd fel a welir yng ngwaith y bardd, yn enwedig yn y gerdd ‘Ymadawedig’. Wrth droed y ffigwr, ceir panel glas gydag awgrym o amlinell y morfil chwedlonol, Moby Dick, sef ysbrydoliaeth gerdd deitl y gyfrol Lightning Beneath the Sea. Yn union ar chwith y ffigwr, ceir llun o ddynes yn darllen llyfr, a welir mewn amlinell o’r tu ôl drwy ffenestr, fel yn y gerdd ‘Reader’. Ar ochr chwith y ddynes, yn dilyn y symbol Groegaidd Sigma, ceir pianydd, a ysbrydolwyd gan y gerdd ‘Piano Solo’. Uwchben y pianydd, ar risiau troellog, fe saif y ffigwr benywaidd dirgelaidd a thywyll a geir yn y gerdd ‘Plas Power’. Nesaf ati hi, mewn cylch, a chyda channwyll olau ar ei ben, ceir pentwr arall o lyfrau – mwy na’r pentwr cyfatebol ar ochr arall y cynfas, a thrwy hynny yn dynodi cryfder cymharol yr iaith Saesneg. Uwchben hwnnw, ac yn gwrthbwyso’r genhinen Pedr ar yr ochr dde, ceir rhosyn Lloegr, er mai rhosyn y Tuduriaid yw hwn, sy’n symboleiddio uno hanes Cymru a Lloegr. Ar frig y cynfas, gwelir pwll glo i gynrychioli treftadaeth lofaol teulu’r bardd. Mae’r ddelwedd hon hefyd yn dangos glofa’r Prince of Wales yn Abercarn, lle digwyddodd trychineb erchyll yn 1878. Wrth greu gwaith celf i goffau’r ddamwain honno y daeth Grahame Davies a Roy Guy i gysylltiad gyntaf oll. Yn olaf, y mae’r ddynes ifanc mewn coch yn union tu ôl i gefn y bardd yn cynrychioli’r ffigwr a geir yn y gerdd ‘Crossroads’. |
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |